Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
|
|
|
||
Dyddiad: |
||
|
||
Amser: |
||
|
||
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a: |
||
Naomi
Stocks 029
2089 8421 |
Name 029
2089 8421 |
|
|
Agenda |
1 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.
|
2 |
Gweithdrefnau ac arferion gweithio'r Pwyllgor Deisebau |
|
2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei weithdrefnau ar gyfer y dyfodol, ynghyd â’r arferion gweithio y bydd yn eu dilyn.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i:
· Ganiatàu uchafswm o 10 munud i ddeisebwyr gyflwyno eu safbwyntiau mewn sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol, a chaniatàu 20 munud i’r Pwyllgor eu holi. · Gwneud mwy o ddefnydd o rwydweithio cymdeithasol er mwyn gwella ymgysylltiad â’r cyhoedd.
|
3 |
Deisebau newydd |
|
|
3.1 |
P-04-319 Deiseb traffig y Drenewydd |
|
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Datganodd Russell George fuddiant yn y ddeiseb.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb.
|
3.2 |
P-04-320 Polisi Tai Cymdeithasol |
|
Trafododd y Pwyllgor y ddesieb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb.
|
3.3 |
P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi |
|
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb ac am ragor o wybodaeth am y ffordd y byddai’r Bil Diogelu Treftadaeth arfaethedig yn effeithio ar y ddeiseb hon.
|
3.4 |
P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach |
|
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Datganodd William Powell fuddiant ym mhwnc y ddeiseb.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb. · Ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i’w wneud yn ymwybodol o’r ddeiseb ac i ofyn ei farn ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb. · Gwahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor. · Ysgrifennu at y Ddraig Ffwnci i ofyn am sylwadau ar y mater hwn.
|
3.5 |
P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned |
|
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Datganodd Russell George fuddiant yn y ddeiseb, a datganodd William Powell fuddiant yn y maes. Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor y byddai dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn cael ei gynnal ar y pwnc yn y Cyfarofd Llawn ar 22 Mehefin 2011.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb. · Ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Ynni a Newid Hinsawdd y DU yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deilllio o’r ddeiseb. · Ysgrifennu at Cyfeillion y Ddaear i ofyn eu barn ar y ddeiseb.
|
3.6 |
P-04-325 Arian a fyddai’n galluogi disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffwrd |
|
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu
at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn am ei sylwadau ar y
ddeiseb.
|
3.7 |
P-04-326 Na i losgyddion |
|
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gofyn ei farn ar y ddesieb.
|
4 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
4.1 |
P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Dywedodd y Cadeirydd fod y deisebwr wedi gofyn i’r Pwyllgor ohirio trafodaeth bellach ar y ddesieb oherwydd ei fod wedi gwneud cais i gyfarfod y Prif Weinidog a’i Aelod Cynulliad lleol i drafod y pwnc.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ohirio trafod y ddeiseb tan iddo gael diweddariad pellach.
|
4.2 |
P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Datganodd William Powell fuddiant ym mhwnc y ddeiseb.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ac yn amlygu pryderon am yr amser y mae’r gwaith wedi’i gymryd i’w gwblhau.
|
4.3 |
P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ofyn am farn y deisebwr ar adroddiad interim yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol a gofyn a fydd hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn y ddesieb. · Ysgrifennu at fudiad Families Need Fathers yn gofyn ei farn am y ddeiseb. · Ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth am y dystiolaeth a roddodd i’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol.
|
4.4 |
P-03-256 Trenau Ychwanegol i Abergwaun |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Gau’r ddeiseb ac ysgrifennu adroddiad cloi arni.
|
4.5 |
P-03-263 Rhestru Parc y Strade |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddesieb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn ei farn am y ddeiseb ac i egluro a fydd y Bil Diogelu Treftadaeth arfaethedig yn mynd i’r afael â rhai o’r materion ehangach sydd wedi codi wrth i’r ddesieb hon gael ei thrafod, a hynny mewn perthynas â diogelu lleoliadau ac adeiladau o ddiddordeb lleol a chenedlaethol.
|
4.6 |
P-03-271 Ardrethi Busnes yn Arberth |
4.7 |
P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf i’r desisebau hyn.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Ffederasiwn Busnesau Bach i ofyn am ei farn am y ddeiseb. · Ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i ofyn a all ddatgan, wth ymateb i’r Pwyllgor, a fyddai’n fodlon i ddadansoddiad gael ei gynnal fel yr amlinellir yng ngohebiaeth y Pwyllgor. |
4.8 |
P-03-288 Strategaeth Genedlaethol ar Fyw’n Annibynnol |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Wahodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.
|
4.9 |
P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y wybodaeth hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Pwyllgor perthnasol ar ôl i strwythur y pwyllgorau gael ei sefydlu i ofyn iddo a fyddai’n ystyried cynnal ymchwiliad i’r mater.
|
4.10 |
P-03-293 Adolygu Cod Derbyn i Ysgolion |
|
Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunoddy Pwyllgor i: · Gau’r ddesieb ac ysgrifennu adroddiad cloi cryno arni. |
4.11 |
P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru - cynrychioli menywod |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am eu sylwadau ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid a gofyn iddynt a ydynt yn bwriadu cyflwyno cais i gael eu hariannu.
|
4.12 |
P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun 2011/12 ac i ofyn a yw gwasanaethau adsefydlu niwrolegol yn rhan o’r cynllun hwn. |
4.13 |
P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y deiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn sut y rhoddir ystyriaeth i sicrhau bod deunyddiau cyfrwng Cymraeg ar gael, mynegi pryderon y deisebwyr a gofyn am roi blaenoriaeth i ymdrin â’r mater.
|
4.14 |
P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf i’r ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ofyn am sylwadau’r deisebwr am y wybodaeth a gasglwyd hyd yn hyn. · Ysgrifennu at y Pwyllgor perthnasol ar ôl i strwythurau’r pwyllgorau gael eu sefydlu a gofyn a fyddant yn ystyried cynnal ymchwiliad i’r mater hwn.
|
4.15 |
P-03-302 Ffatri prosesu compost |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddesieb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ofyn am sylwadau’r deisebwr am yr ohebiaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a gofyn a yw lefelau’r arogleuon drwg wedi gwella.
|
4.16 |
P-03-308 Achub Theatr Gwent |
4.17 |
P-03-311 Theatr Spectacle |
4.18 |
P-03-314 Achub Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys
|
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y deisebau hyn.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ofyn am farn y deisebwr am yr ohebiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. · Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i ofyn am ei sylwadau am y ddeiseb, am gadernid Adolygiad Buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru ar y mater penodol hwn ac a oedd unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i adolygu’r broses a’r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â theatr mewn addysg. · Pwyso ar Gyngor Celfyddydau Cymru am gopi o gynllun busnes yr Adroddiadau Asesu ar gyfer pob un o’r wyth cwmni theatr mewn addysg.
|
4.19 |
P-03-316 Dylid gosod yr angen i gynnal hebryngwyr croesfannau ysgol sy’n bodoli eisioes yn amod o Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynghorau lleol na ellir mo’i newid. |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ofyn am farn y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau am y ddeiseb hon.
|
4.20 |
P-03-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol |
|
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddesieb hon. Datganodd William Powell fuddiant yn y maes cysylltieidig o amseroedd ymateb ambiwlansys.
Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Powys a Chyngor Iechyd Cymuned Trefaldwyn i ofyn am eu sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb ac am fanylion am eu cyfraniad at y broses ymgynghori.
|
4.21 |
P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx |
|
Trafododd y Pwyllgor y
wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn goyn am ei sylwadau ar y ddeiseb. · Gwahodd y deisebwyr i gyflwyno tystiolaeth lafar.
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |